Ers 2018, mae Melissa Lambe wedi bod yn arwain teithiau cerdded o amgylch strydoedd hanesyddol Caernarfon. Cychwynnodd y teithiau tref yn wreiddiol gan Emrys Llewelyn a ymddeolodd yn 2020. Graddiodd Melissa yn 2019 gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Hanes, Treftadaeth ac Archeoleg, gan ganolbwyntio ei thraethawd hir ar hanes Caernarfon a'i Safle Treftadaeth y Byd. Mae Melissa wedi byw yn agos i Gaernarfon drwy gydol ei hoes.
Yn ogystal ag arwain teithiau, mae Melissa yn Archeolegydd Cofnod Amgylchedd Hanesyddol a Swyddog Canfyddiadau yn Heneb (Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru). Yn ei hamser hamdden, mae Melissa yn mwynhau cerdded mynyddoedd, codi pwysau, padlfyrddio, nofio, trafeilio'r byd, treulio amser gyda'i ffrindiau, teulu a chi, gwrando ar gerddoriaeth, bwyta allan a ffasiwn."
