image

Teithiau Cerdded Caernarfon


Teithiau cerdded tywysedig o amgylch tref hanesyddol Caernarfon

Polisi Preifatrwydd

Pwrpas y polisi preifatrwydd yma
Mae'r ddogfen hon yn egluro pa fath o ddata sydd gan ‘Teithiau Cerdded Caernarfon’ amdanoch chi pan ymwelwch â caernarfonwalks.co.uk, beth rydym ni'n defnyddio'r data ar gyfer, o ble cawson ni ’r data , pa mor hir bydd y data'n cael ei storio a phwy rydym yn ei rannu gyda ayyb Trwy ymweld â gwefan Teithiau Cerdded Caernarfon, rydych yn derbyn y polisi preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn cydsynio, peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda ni.

Pa ddata ydym ni yn ei gasglu?
Gall y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi gynnwys: eich enw, cyfeiriad e bost a rhif ffôn. Ond mae croeso i chi edrych ar ein gwefan heb roi eich data personol.

Sut ydym ni yn casglu eich data?
Rydym yn casglu data pan rydych chi'n:

  • Cwblhau'r ffurflen ‘cysylltu / bwcio’ ar ein gwefan
  • Anfon ymholiad trwy e-bost, neu ffonio ni.

Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol?
Mae Teithiau Cerdded Caernarfon yn casglu eich data fel y gallwn:

  • Ymateb i’ch ymholiad, prosesu eich archeb, anfon gwybodaeth a diweddariadau atoch am eich archeb, darparu'r gwasanaeth a brynoch, prosesu taliadau a chadw cofnodion o'r gwerthiant busnes.
  • Gwella eich profiad defnyddiwr a phersonoli eich profiad gyda ni - mae gwybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ein helpu i ymateb yn well i'ch anghenion personol a'ch ceisiadau gwasanaeth cwsmer yn fwy effeithiol.
  • Deall sut mae ymwelwyr ein gwefan yn symud o amgylch a llywio a defnyddio'r wefan, er mwyn gwella dyluniad a chynnwys ein gwefan.
  • Gwella ansawdd ein gwasanaethau.

Byddwn yn casglu data personol i'r graddau sy'n ofynnol i’r pwrpas a fwriadwyd yn unig.

Sut ydym ni'n storio eich data?
Mae Teithiau Cerdded Caernarfon yn cadw eich data yn ddiogel ar liniadur perchennog y busnes wedi ei amgryptio a ddiogelir gan gyfrinair nad oes gan neb arall fynediad iddo. Mae camau diogelwch yn ei lle i sicrhau bod y data yn ddiogel. Rhagofalon diogelwch a gymerir yw nad yw'r data ar gael i neb arall ac mae meddalwedd gwrth-feirws yn cael ei diweddaru.

Am faint y byddwn yn cadw'r data?
Bydd Teithiau Cerdded Caernarfon yn cadw eich data personol (h.y. enw a manylion cyswllt) am 5 mlynedd ar ôl eich taith dywys o amgylch Caernarfon / Segontium. Unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.

Ydyn ni'n rhannu eich data gydag eraill?
Nid ydym yn rhannu eich data gydag unrhyw drydydd partïon.

Beth yw eich hawliau diogelu data?
Gallwch ofyn i weld y data personol sydd gennym amdanoch chi. Gallwch hefyd ofyn i ni gywiro neu ddileu eich data personol (mewn rhai amgylchiadau). Mae gennych hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu eich data personol (os yw'n berthnasol). Mae gennych hawl i gael trosglwyddo eich data personol i chi neu sefydliad arall os ydych yn dymuno (o dan amodau penodol).

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau yma, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am ein polisi preifatrwydd, e-bostiwch ein swyddog diogelu data (Melissa Lambe): melissa@caernarfonwalks.co.uk byddwn yn ymateb i'ch cais o fewn 28 diwrnod.

Os ydych dal yn anfodlon gyda’r ffordd y mae Teithiau Cerdded Caernarfon yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Ewch i: https://ico.org.uk/make-a-complaint/complaint/
Rhif ffôn: 0330 414 6421
E--bost: wales@ico.org.uk
Cyfeiriad post: Information Commissioner's Office. 22ndfloor. Churchill House. Churchill way. Cardiff. CF10 2HH.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd yma
Gall Teithiau Cerdded Caernarfon gwneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd trwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan. Rydym yn eich cynghori i edrych ar y dudalen hon yn achlysurol oherwydd bydd parhau i ddefnyddio'r wefan ar ôl postio newidiadau yn golygu eich bod chi'n derbyn y polisi preifatrwydd newydd. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Ebrill 2020.

Dolenni i wefannau eraill
Efallai y bydd gwefan Teithiau Cerdded Caernarfon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'n gwefan ni yn unig. Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut mae sefydliadau eraill yn prosesu data personol, felly, os rydych yn clicio ar ddolen i wefan arall, rydym yn eich annog i ddarllen eu polisi preifatrwydd.

I archebu'ch lle ar daith gerdded, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â Melissa:

melissa@caernarfonwalks.co.uk | 07873 542 878